Cymraeg
Ras Yr Ynys - Hanner Marathon Môn 2012
Dydd Sul Mai 13, 2012
Croeso i Hanner Marathon newydd sbon Môn - “Ras yr Ynys - sialens eiconig o bont i gastell”.
Ras newydd a chyffrous ar gyfer eich dyddiadur yn 2012, am y tro cyntaf erioed gallwch redeg ar draws Bont fyd-enwog y Borth heb draffig arni, a dilyn ffordd yr arfordir i Gastell mawreddog Biwmares ac yn ôl. Mae’n gwrs gwastad a chyflym a fydd yn eich ysbrydoli chi i roi eich amser personol gorau, neu’n syml, i roi cynnig arni. Yn ogystal, mi fydd gennych y pleser a’r tawelwch meddwl gan y bydd y rhan fwyaf o’r llwybr ar ffyrdd sydd wedi eu cau ac sydd heb draffig.
Wedi ei drefnu gan redwyr brwdfrydig lleol a threfnwyr digwyddiadau proffesiynol, ni ddylech golli’r digwyddiad hwn! Ni ellir cael gwell llwybr na hyn, ac mae’r diwrnod yn argoeli i fod yn fythgofiadwy.
Mae ffi’r ymgeiswyr o £21 yn cynnwys ffioedd gweinyddol cofrestru ar-lein, sglodyn electronig i gadw amser, adloniant teuluol, crys T unigryw am ddim i goffau’r ras, medal lechen unigryw i’r rhai a gwblhaodd y ras, a lluniaeth ar y llinell derfyn. Rydym yn meddwl fod hyn yn werth gwych am arian, ac yn gyfle unigryw i redeg ar y llwybr eiconig hwn.
Os yw’r hanner marathon yn swnio’n ormod, yna dewch i fwynhau'r awyrgylch, mi fydd digon i'w weld a'i wneud yn cynnwys ras plant sydd hefyd yn dechrau wrth redeg ar draws Bont y Borth.
Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda'n ffrindiau yn "Energy Solutions" a cymunedau Porthaethwy, Cwm Cadnant a Biwmares.
Am wybodaeth fanylach am y llwybr, cliciwch ar y dudalen gwybodaeth am y ras.

